Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 15:21-31 beibl.net 2015 (BNET)

21. Mae gweddill hanes Menachem, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

22. Pan fu farw Menachem, dyma ei fab, Pecacheia, yn dod yn frenin yn ei le.

23. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg o flynyddoedd pan ddaeth Pecacheia, mab Menachem, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddwy flynedd.

24. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.

25. A dyma'i is-gapten, Pecach fab Remaleia, yn cynllwyn yn ei erbyn. Dyma hwnnw, gyda pum deg o ddynion o Gilead, yn torri i mewn i gaer y palas a lladd y brenin Pecacheia, Argob ac Arie. Yna dyma Pecach yn dod yn frenin.

26. Mae gweddill hanes Pecacheia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

27. Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg dwy o flynyddoedd, pan ddaeth Pecach fab Remaleia, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddau ddeg o flynyddoedd.

28. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.

29. Pan oedd Pecach yn frenin ar Israel, dyma Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn dod a gorchfygu gogledd y wlad i gyd – trefi Ïon, Abel-beth-maacha, Ianoach, Cedesh, a Chatsor, hefyd ardaloedd Gilead, Galilea, a tir Nafftali i gyd. A dyma fe'n mynd â'r bobl i gyd yn gaethion i Asyria.

30. Yna dyma Hoshea fab Ela yn cynllwyn yn erbyn Pecach, ei ladd, a dod yn frenin yn ei le. Digwyddodd hyn pan oedd Jotham fab Wseia, wedi bod yn frenin am ddau ddeg o flynyddoedd.

31. Mae gweddill hanes Pecach, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 15