10. Amaseia, mae'n wir dy fod ti wedi gorchfygu Edom, ond mae wedi mynd i dy ben di! Mwynha dy lwyddiant ac aros adre. Wyt ti'n edrych am drwbwl? Dw i'n dy rybuddio di, byddi di a dy deyrnas yn syrthio gyda'ch gilydd!”
11. Ond doedd Amaseia ddim am wrando. Felly dyma Jehoas, brenin Israel, yn mynd i ryfel yn ei erbyn. Dyma nhw'n dod wyneb yn wyneb yn Beth-shemesh ar dir Jwda.
12. Byddin Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma filwyr Jwda i gyd yn dianc am adre.
13. Roedd Jehoas, brenin Israel, wedi dal Amaseia, brenin Jwda, yn Beth-shemesh. A dyma fe'n mynd ymlaen i Jerwsalem a chwalu waliau'r ddinas o Giât Effraim at Giât y Gornel, pellter o bron i ddau can metr.
14. Yna dyma fe'n cymryd yr holl aur ac arian, a'r llestri oedd yn y deml ac yn storfa'r palas. Cymerodd wystlon hefyd, ac yna mynd yn ôl i Samaria.
15. Mae gweddill hanes Jehoas, y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a'i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
16. Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn dod yn frenin yn ei le.
17. Buodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw.
18. Mae gweddill hanes Amaseia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
19. Dyma ryw bobl yn Jerwsalem yn cynllwynio yn ei erbyn, a dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno.
20. Dyma'r corff yn cael ei gymryd yn ôl i Jerwsalem ar geffylau, a cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda'i hynafiaid.
21. Yna dyma bobl Jwda i gyd yn cymryd Wseia, mab Amaseia, oedd yn un deg chwech oed, a'i wneud e yn frenin yn lle ei dad.
22. Wseia wnaeth ennill tref Elat yn ôl i Jwda a'i hailadeiladu ar ôl i'w dad Amaseia farw.
23. Pan oedd Amaseia fab Joas, wedi bod yn frenin Jwda am un deg pump o flynyddoedd, dyma Jeroboam fab Jehoas yn dod yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am bedwar deg un o flynyddoedd.