5. Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon un i achub Israel oddi wrth Syria, a cafodd y bobl fynd i fyw yn eu cartrefi eu hunain eto, fel o'r blaen.
6. Ond wnaethon nhw ddim troi eu cefnau ar eilunod teulu Jeroboam oedd wedi gwneud i Israel bechu. Roedden nhw'n dal ati i bechu fel o'r blaen. Roedd hyd yn oed polyn i'r dduwies Ashera yn dal yn Samaria.
7. Doedd gan Jehoachas ddim byddin ar ôl ychwaith, dim ond pum deg o geffylau, deg cerbyd a deg mil o filwyr troed. Roedd brenin Syria wedi eu dinistrio nhw a'u sathru nhw dan draed fel mân lwch ar lawr dyrnu.
8. Mae gweddill hanes Jehoachas, y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
9. Bu Jehoachas farw a chael ei gladdu yn Samaria, a dyma'i fab, Jehoas yn dod yn frenin yn ei le.
10. Roedd Joas wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg saith o flynyddoedd, pan ddaeth Jehoas fab Jehoachas yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am un deg chwech o flynyddoedd.
11. Gwnaeth yntau hefyd bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd e'n byw yr un fath.