Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 11:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. Bydd dwy o'r unedau sydd ddim ar ddyletswydd ar y Saboth yn dod i warchod y deml ac amddiffyn y brenin.

8. Rhaid i chi sefyll o'i gwmpas gyda'ch arfau yn eich dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod yn agos atoch, lladdwch e. Dych chi i aros gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.”

9. Dyma gapteiniaid yr unedau yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd), a dod â nhw at Jehoiada.

10. Yna dyma'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau i'r capteniaid, sef arfau y brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD.

11. Yna dyma'r gwarchodlu brenhinol yn cymryd eu lle, gyda'i harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr i'r deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin.

12. Yna dyma Jehoiada yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. Yna dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio trwy dywallt olew ar ei ben, curo dwylo a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”

13. Dyma Athaleia'n clywed sŵn y gwarchodlu a'r bobl, a mynd atyn nhw i'r deml.

14. Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler yn ôl y ddefod. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu a'r utgyrn yn canu ffanffer.Pan welodd hi hyn i gyd, dyma Athaleia'n rhwygo ei dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”

15. Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw “Ewch â hi allan o'r deml at y rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi.” Roedd wedi dweud hyn am nad oedd hi i gael ei lladd yn y deml.

16. Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 11