Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 11:16-21 beibl.net 2015 (BNET)

16. Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.

17. Dyma Jehoiada yn selio'r ymrwymiad rhwng yr ARGLWYDD â'r brenin a'i bobl, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i'r ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb rhwng y brenin a'r bobl hefyd.

18. Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a'i dinistrio. Dyma nhw'n chwalu'r allorau a malu'r delwau i gyd yn ddarnau mân, a cafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau. Roedd Jehoiada'r offeiriad wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD.

19. Yna dyma fe'n galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a'r gwarchodlu brenhinol, a'r bobl i gyd. A dyma nhw'n arwain y brenin mewn prosesiwn o'r deml i'r palas drwy Giât y Gwarchodlu Brenhinol. A dyma'r brenin yn eistedd ar yr orsedd.

20. Roedd pawb drwy'r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd yn y palas.

21. Dim ond saith oed oedd Joas pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 11