31. Ac eto doedd Jehw ddim yn gwbl ufudd i ddeddfau'r ARGLWYDD, Duw Israel. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam wedi eu codi i wneud i Israel bechu.
32. Yr adeg yna dyma'r ARGLWYDD yn dechrau cymryd tir oddi ar Israel. Roedd Hasael yn ymosod ar ffiniau Israel i gyd.
33. Concrodd wlad Gilead, sydd i'r dwyrain o'r afon Iorddonen (tir llwythau Gad, Reuben a Manasse). Tir sy'n ymestyn yr holl ffordd o dref Aroer yn nyffryn Arnon, drwy Gilead i ardal Bashan.
34. Mae gweddill hanes Jehw, y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
35. Pan fuodd Jehw farw, cafodd ei gladdu yn Samaria, a dyma'i fab, Jehoachas, yn dod yn frenin yn ei le.
36. Roedd Jehw wedi bod yn frenin ar Israel am ddau ddeg wyth o flynyddoedd.