Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 10:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd gan Ahab saith deg o feibion yn Samaria. Felly dyma Jehw yn anfon llythyrau at swyddogion ac arweinwyr Jesreel, ac at y rhai oedd yn gofalu am feibion Ahab. Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud:

2. “Mae meibion eich meistr i gyd gyda chi, ac mae gynnoch chi gerbydau a cheffylau, dinas gaerog ac arfau. Felly, pan dderbyniwch chi'r llythyr yma,

3. dewiswch chi y gorau a'r mwyaf abl o feibion eich meistr a'i wneud yn frenin yn lle ei dad. Ond yna byddwch barod i amddiffyn llinach eich meistr.”

4. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae dau frenin wedi methu ei stopio fe. Pa obaith sydd gynnon ni?” medden nhw.

5. Felly dyma bennaeth y palas, pennaeth y ddinas, yr arweinwyr a'r rhai oedd â gofal am deulu Ahab, yn anfon y neges yma at Jehw: “Dŷn ni am fod yn weision i ti! Dŷn ni'n fodlon gwneud beth bynnag rwyt ti eisiau. Dŷn ni'n bwriadu gwneud neb arall yn frenin. Gwna di beth ti'n feddwl sy'n iawn.”

6. Felly dyma Jehw yn anfon llythyr arall atyn nhw: “Os ydych chi wir ar fy ochr i, ac am fod yn ufudd i mi, yna torrwch bennau meibion Ahab i gyd, a dewch â nhw ata i i Jesreel erbyn yr adeg yma fory.”Pobl bwysig yn ninas Samaria oedd wedi bod yn magu y saith deg o feibion oedd gan y brenin Ahab.

7. Ond ar ôl derbyn llythyr Jehw, dyma nhw'n eu dal nhw a lladd y cwbl. Dyma nhw'n rhoi eu pennau mewn basgedi a'u hanfon i Jesreel.

8. Pan ddaeth y neges fod y pennau wedi cyrraedd, dyma Jehw yn dweud, “Rhowch nhw mewn dau bentwr wrth giât y ddinas, a'i gadael nhw yno tan y bore.”

9. Yna'r bore wedyn dyma Jehw yn mynd allan yno, a dweud wrth y bobl, “Dych chi ddim ar fai. Fi ydy'r un wnaeth gynllwyn yn erbyn y brenin Joram, fy meistr, a'i ladd. Ond pwy laddodd y rhain?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 10