19. “Fi ydy'r gweledydd,” meddai Samuel wrtho. “Dos o'm blaen at yr allor. Cewch chi'ch dau fwyta gyda mi heddiw, wedyn fory cei fynd ar dy ffordd ar ôl i mi ddweud am bopeth sy'n dy boeni di.
20. Paid poeni am yr asennod sydd wedi bod ar goll ers tridiau. Maen nhw wedi dod o hyd iddyn nhw. Pwy wyt ti'n feddwl mae Israel i gyd yn dyheu amdano? Ie, ti ydy e, a theulu dy dad.”
21. Ond dyma Saul yn ateb, “Sut mae hynny'n bosib? I lwyth Benjamin dw i'n perthyn, y llwyth lleiaf yn Israel! Ac mae fy nheulu i yn un o deuluoedd mwyaf cyffredin Benjamin. Pam wyt ti'n dweud peth felly wrtho i?”
22. Yna dyma Samuel yn mynd â Saul a'i was i'r neuadd fwyta, a rhoi'r seddi gorau iddyn nhw ar ben y bwrdd. Roedd yna tua tri deg o bobl wedi eu gwahodd i gyd.
23. Wedyn dyma Samuel yn dweud wrth y cogydd, “Dos i nôl y darn yna o gig wnes i ddweud wrthot ti am ei gadw o'r neilltu.”
24. A dyma'r cogydd yn dod â darn uchaf y goes a'i osod o flaen Saul. Ac meddai Samuel, “Mae'r darn yna i ti – mae wedi ei gadw i ti. Bwyta fe, achos pan o'n i'n gwahodd pobl yma, dwedais fod hwn i gael ei gadw ar dy gyfer di.” Felly dyma Saul yn bwyta gyda Samuel y diwrnod hwnnw.
25. Wedi iddyn nhw ddod yn ôl o'r allor i'r dre, buodd Samuel yn siarad yn breifat gyda Saul ar do fflat y tŷ.
26. Ben bore wedyn, pan oedd hi'n gwawrio, dyma Samuel yn galw ar Saul, oedd ar y to: “Cod, i mi dy anfon di ar dy ffordd.” Felly dyma Saul yn codi, a dyma fe a'i was yn mynd allan hefo Samuel.
27. Pan ddaethon nhw i gyrion y dre, dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Dywed wrth dy was am fynd yn ei flaen. Dw i eisiau i ti aros i mi roi neges gan Dduw i ti.”