Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 9:17-24 beibl.net 2015 (BNET)

17. Pan welodd Samuel Saul, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dacw'r dyn wnes i ddweud wrthot ti amdano. Fe sy'n mynd i arwain fy mhobl i.”

18. Roedden nhw wrth giât y ddinas, a dyma Saul yn gofyn i Samuel, “Alli di ddweud wrtho i ble mae'r gweledydd yn byw?”

19. “Fi ydy'r gweledydd,” meddai Samuel wrtho. “Dos o'm blaen at yr allor. Cewch chi'ch dau fwyta gyda mi heddiw, wedyn fory cei fynd ar dy ffordd ar ôl i mi ddweud am bopeth sy'n dy boeni di.

20. Paid poeni am yr asennod sydd wedi bod ar goll ers tridiau. Maen nhw wedi dod o hyd iddyn nhw. Pwy wyt ti'n feddwl mae Israel i gyd yn dyheu amdano? Ie, ti ydy e, a theulu dy dad.”

21. Ond dyma Saul yn ateb, “Sut mae hynny'n bosib? I lwyth Benjamin dw i'n perthyn, y llwyth lleiaf yn Israel! Ac mae fy nheulu i yn un o deuluoedd mwyaf cyffredin Benjamin. Pam wyt ti'n dweud peth felly wrtho i?”

22. Yna dyma Samuel yn mynd â Saul a'i was i'r neuadd fwyta, a rhoi'r seddi gorau iddyn nhw ar ben y bwrdd. Roedd yna tua tri deg o bobl wedi eu gwahodd i gyd.

23. Wedyn dyma Samuel yn dweud wrth y cogydd, “Dos i nôl y darn yna o gig wnes i ddweud wrthot ti am ei gadw o'r neilltu.”

24. A dyma'r cogydd yn dod â darn uchaf y goes a'i osod o flaen Saul. Ac meddai Samuel, “Mae'r darn yna i ti – mae wedi ei gadw i ti. Bwyta fe, achos pan o'n i'n gwahodd pobl yma, dwedais fod hwn i gael ei gadw ar dy gyfer di.” Felly dyma Saul yn bwyta gyda Samuel y diwrnod hwnnw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 9