Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 9:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. Atebodd Saul ei was, “Gwych! Tyrd, gad i ni fynd.” Felly dyma nhw'n mynd i'r dre lle roedd proffwyd Duw.

11. Wrth fynd i fyny'r allt at y dre dyma nhw'n cyfarfod merched ifanc yn mynd i nôl dŵr. A dyma ofyn iddyn nhw, “Ydy'r gweledydd yma?”

12. “Ydy,” meddai'r merched, “yn syth o'ch blaen acw. Ond rhaid i chi frysio. Mae e newydd gyrraedd y dre am fod y bobl am gyflwyno aberth ar yr allor leol heddiw.

13. Os ewch i mewn i'r dre, byddwch yn ei ddal e cyn iddo fynd at yr allor i fwyta. Fydd y bobl ddim yn bwyta cyn iddo fe gyrraedd, am fod rhaid iddo fendithio'r aberth. Dim ond wedyn y bydd y rhai sydd wedi cael eu gwahodd yn bwyta. Os ewch chi nawr, byddwch chi'n dod o hyd iddo'n syth.”

14. Aeth y ddau i fyny i'r dre. Ac wrth fynd i mewn dyna lle roedd Samuel yn dod i'w cyfarfod. Roedd e ar ei ffordd i'r allor leol.

15. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Samuel y diwrnod cynt fod Saul yn mynd i ddod yno:

16. “Tua'r adeg yma fory, dw i'n mynd i anfon dyn o lwyth Benjamin atat ti. Dw i eisiau i ti ei eneinio fe i arwain fy mhobl Israel. Bydd e'n achub fy mhobl o afael y Philistiaid. Dw i wedi bod yn gwylio fy mhobl, ac wedi eu clywed nhw'n galw am help.”

17. Pan welodd Samuel Saul, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dacw'r dyn wnes i ddweud wrthot ti amdano. Fe sy'n mynd i arwain fy mhobl i.”

18. Roedden nhw wrth giât y ddinas, a dyma Saul yn gofyn i Samuel, “Alli di ddweud wrtho i ble mae'r gweledydd yn byw?”

19. “Fi ydy'r gweledydd,” meddai Samuel wrtho. “Dos o'm blaen at yr allor. Cewch chi'ch dau fwyta gyda mi heddiw, wedyn fory cei fynd ar dy ffordd ar ôl i mi ddweud am bopeth sy'n dy boeni di.

20. Paid poeni am yr asennod sydd wedi bod ar goll ers tridiau. Maen nhw wedi dod o hyd iddyn nhw. Pwy wyt ti'n feddwl mae Israel i gyd yn dyheu amdano? Ie, ti ydy e, a theulu dy dad.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 9