Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 5:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wedi iddyn nhw gipio Arch Duw, dyma'r Philistiaid yn mynd â hi o Ebeneser i Ashdod.

2. Aethon nhw â hi i deml eu duw Dagon, a'i gosod hi wrth ochr y ddelw o Dagon.

3. Bore trannoeth, pan gododd pobl Ashdod, roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb o flaen Arch Duw. Felly dyma nhw yn ei godi a'i osod yn ôl yn ei le.

4. Yna pan godon nhw'n gynnar y bore wedyn roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb eto o flaen Arch Duw. Roedd ei ben a'i ddwy law wedi eu torri i ffwrdd, ac yn gorwedd wrth y drws. Dim ond corff Dagon oedd yn un darn.

5. (Dyna pam mae offeiriaid Dagon hyd heddiw, a phawb arall sy'n dod i deml Dagon, yn osgoi camu ar stepen drws y deml yn Ashdod.)

6. Cosbodd yr ARGLWYDD bobl Ashdod yn drwm, ac achosi hafoc yno. Cafodd pobl Ashdod, a'r ardal o'i chwmpas, eu taro'n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw.

7. Pan sylweddolodd pobl Ashdod beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n dweud, “Ddylai Arch Duw Israel ddim aros yma gyda ni. Mae e wedi'n taro ni a Dagon ein duw ni!”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 5