Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 30:9-17 beibl.net 2015 (BNET)

9. Felly i ffwrdd a Dafydd, a'i chwe chant o ddynion gydag e. Dyma nhw'n cyrraedd Wadi Besor, a dyma rai o'r dynion yn aros yno.

10. Aeth Dafydd yn ei flaen gyda pedwar cant o'r dynion. (Roedd dau gant wedi aros ar ôl am eu bod yn rhy flinedig i groesi Wadi Besor.)

11. Dyma nhw'n dod o hyd i ddyn o'r Aifft mewn cae, a mynd â fe at Dafydd. Dyma nhw'n rhoi ychydig o fwyd iddo a diod o ddŵr.

12. Wedyn dyma nhw'n rhoi bar o ffigys a dau lond dwrn o rhesins iddo, a daeth ato'i hun. Doedd e ddim wedi cael dim byd i'w fwyta na'i yfed ers tri diwrnod.

13. Dyma Dafydd yn ei holi, “O ble ti'n dod? Pwy ydy dy feistr di?” A dyma'r bachgen yn ateb, “Dw i'n dod o'r Aifft ac yn gaethwas i un o'r Amaleciaid. Gadawodd fy meistr fi yma dridiau yn ôl am fy mod i'n sâl.

14. Roedden ni newydd ymosod ar Negef y Cerethiaid, ar ardal Jwda a Negef Caleb. Ac roedden ni wedi rhoi Siclag ar dân.”

15. Dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Wnei di'n harwain ni at yr ymosodwyr yma?” A dyma fe'n ateb, “Addo i mi o flaen dy Dduw y gwnei di ddim fy lladd i, na'm rhoi i yn ôl i'm meistr, a gwna i dy arwain di atyn nhw.”

16. Pan aeth e â Dafydd atyn nhw, roedden nhw dros bob man. Roedden nhw'n bwyta ac yn yfed ac yn dathlu am eu bod wedi llwyddo i ddwyn cymaint o wlad y Philistiaid ac o Jwda.

17. Yna cyn i'r wawr dorri dyma Dafydd a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw. Buon nhw'n ymladd drwy'r dydd nes oedd hi'n dechrau nosi. Yr unig rai wnaeth lwyddo i ddianc oedd rhyw bedwar cant o ddynion ifanc wnaeth ffoi ar gefn camelod.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 30