Ond roedd yna rai dynion drwg am godi stŵr ymhlith y rhai aeth gyda Dafydd, a dyma nhw'n dweud, “Pam ddylai'r rhain gael siâr o'r ysbail? Wnaethon nhw ddim dod gyda ni! Caiff pob un ohonyn nhw gymryd ei wraig a'i blant yn ôl, ond wedyn rhaid iddyn nhw adael!”