Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 30:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Erbyn i Dafydd a'i ddynion gyrraedd yn ôl i Siclag ddeuddydd wedyn, roedd yr Amaleciaid wedi bod yno ac wedi ymosod ar dde Jwda a Siclag. Roedden nhw wedi llosgi Siclag,

2. ac wedi cymryd y gwragedd oedd yno yn gaethion, hen ac ifanc. Doedden nhw ddim wedi lladd neb, ond wedi mynd â nhw i ffwrdd gyda nhw.

3. Roedd y dre wedi ei llosgi pan gyrhaeddodd Dafydd yno. Roedd eu gwragedd a'u plant wedi eu cymryd yn gaethion.

4. A dyma Dafydd a'i ddynion yn dechrau crïo'n uchel nes eu bod nhw'n rhy wan i grïo ddim mwy.

5. Roedd gwragedd Dafydd wedi eu cymryd yn gaeth hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel.

6. Roedd Dafydd mewn trwbwl. Roedd y dynion yn bygwth ei ladd drwy daflu cerrig ato, am eu bod nhw i gyd mor chwerw am beth oedd wedi digwydd i'w plant. Ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw.

7. Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriad, Abiathar fab Achimelech, a dweud wrtho, “Tyrd â'r effod i mi.” Daeth Abiathar a'r effod iddo.

8. A dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Os af i ar ôl y rhai wnaeth ymosod, wna i eu dal nhw?” A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Dos ar eu holau. Byddi'n eu dal nhw ac yn llwyddo i achub y rhai sydd wedi cael eu cipio!”

9. Felly i ffwrdd a Dafydd, a'i chwe chant o ddynion gydag e. Dyma nhw'n cyrraedd Wadi Besor, a dyma rai o'r dynion yn aros yno.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 30