Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 3:9-21 beibl.net 2015 (BNET)

9. A dwedodd wrtho, “Dos yn ôl i gysgu. Pan fydd e'n dy alw di eto, ateb fel yma: ‘Siarada ARGLWYDD, mae dy was yn gwrando.’”Felly dyma Samuel yn mynd yn ôl orwedd i lawr.

10. A dyma'r ARGLWYDD yn dod ato eto, a galw arno fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!”. A dyma Samuel yn ateb, “Siarada, mae dy was yn gwrando.”

11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Samuel, “Dw i yn mynd i wneud rhywbeth yn Israel fydd yn sioc ofnadwy i bawb fydd yn clywed am y peth.

12. Mae popeth dw i wedi sôn wrth Eli amdano – popeth ddywedais i fyddai'n digwydd i'w deulu – yn mynd i ddod yn wir!

13. Dw i wedi dweud wrtho fy mod yn mynd i gosbi ei deulu am byth. Roedd e'n gwybod fod ei feibion yn melltithio Duw, ac eto wnaeth e ddim dweud y drefn wrthyn nhw.

14. A dyna pam dw i wedi addo ar lw am deulu Eli, na fydd unrhyw aberth nac offrwm byth yn gallu gwneud iawn am eu pechod.”

15. Arhosodd Samuel yn ei wely tan y bore. Yna dyma fe'n codi i agor drysau cysegr yr ARGLWYDD. Roedd arno ofn dweud wrth Eli am y weledigaeth.

16. Ond dyma Eli'n ei alw, “Samuel, machgen i.”A dyma fe'n ateb, “Dyma fi.”

17. A dyma Eli'n gofyn iddo, “Beth ddwedodd Duw wrthot ti? Paid cuddio dim oddi wrtho i. Boed i Dduw dy gosbi di os byddi di'n cuddio unrhyw beth ddwedodd e oddi wrtho i!”

18. Felly dyma Samuel yn dweud popeth wrtho. Wnaeth e guddio dim. Ymateb Eli oedd, “Yr ARGLWYDD ydy e, a bydd e'n gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.”

19. Wrth i Samuel dyfu i fyny, roedd Duw gydag e. Daeth pob neges roddodd e gan Dduw yn wir.

20. Roedd Israel gyfan, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, yn gwybod fod Duw wedi dewis Samuel yn broffwyd.

21. Roedd yr ARGLWYDD yn dal i ymddangos i Samuel yn Seilo, ac yn rhoi negeseuon iddo yno.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 3