Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 28:15-25 beibl.net 2015 (BNET)

15. Dyma Samuel yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti wedi tarfu arna i, a'm galw i fyny?” A dyma Saul yn ateb, “Dw i mewn helynt. Mae'r Philistiaid wedi dod i ryfela yn fy erbyn i, ac mae Duw wedi troi cefn arna i. Dydy e ddim yn fy ateb i drwy'r proffwydi na trwy freuddwydion. Dyna pam dw i wedi dy alw di. Dw i eisiau i ti ddweud wrtho i be i'w wneud.”

16. Dyma Samuel yn ei ateb, “Os ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnat ti a throi'n elyn i ti, pam ti'n troi ata i?

17. Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yn union beth wnes i broffwydo! Mae e wedi rhwygo'r deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i Dafydd.

18. Wnest ti ddim gwrando ar yr ARGLWYDD, na gwneud beth oedd e eisiau i ti ei wneud i'r Amaleciaid. Dyna pam mae e'n gwneud hyn i ti nawr.

19. Bydd e'n dy roi di ac Israel yn nwylo'r Philistiaid. Erbyn fory byddi di a dy feibion yn yr un lle â fi. Bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi byddin Israel yn nwylo'r Philistiaid.”

20. Pan glywodd Saul beth ddwedodd Samuel dyma fe'n syrthio ar ei hyd ar lawr. Roedd wedi dychryn trwyddo, a doedd ganddo ddim nerth o gwbl am ei fod heb fwyta drwy'r dydd na'r nos.

21. Roedd y wraig yn gweld gymaint roedd Saul wedi dychryn, ac meddai wrtho, “Dw i, dy forwyn, wedi gwneud beth roeddet ti eisiau. Ro'n i'n mentro fy mywyd yn gwrando arnat ti.

22. Nawr, gwrando di arna i. Gad i mi roi ychydig o fwyd i ti. Pan fyddi wedi cael dy nerth yn ôl cei fynd ar dy daith.”

23. Ond gwrthod wnaeth Saul, a dweud ei fod e ddim eisiau bwyta. Ar ôl i'w weision a'r wraig bwyso arno dyma fe'n gwrando yn y diwedd. Cododd oddi ar lawr ac eistedd ar y gwely.

24. Roedd gan y wraig lo gwryw wedi ei besgi, felly dyma hi'n ei ladd yn syth. Wedyn dyma hi'n cymryd blawd a pobi bara heb furum ynddo.

25. Gosododd y bwyd o flaen Saul a'i weision. Yna ar ôl iddyn nhw fwyta, dyma nhw'n gadael y noson honno.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 28