Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 28:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. Ond dyma Saul yn addo ar lw o flaen yr ARGLWYDD, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydd dim byd drwg yn digwydd i ti am wneud hyn.”

11. Felly dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Pwy wyt ti eisiau i mi ei alw i ti?” A dyma fe'n ateb, “Galw Samuel i fyny ata i.”

12. Pan welodd hi Samuel, dyma'r ddynes yn rhoi sgrech. “Pam wnest ti fy nhwyllo i?” meddai, “Saul wyt ti!”

13. Dyma'r brenin yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dywed be rwyt ti'n weld.” Ac meddai'r wraig wrth Saul, “Dw i'n gweld ysbryd yn dod i fyny o'r ddaear.”

14. “Sut un ydy e?” meddai Saul. A dyma hi'n ateb, “Hen ŵr ydy e. Mae'n gwisgo mantell amdano.” Roedd Saul yn gwybod mai Samuel oedd e, a dyma fe'n mynd ar ei liniau a plygu â'i wyneb ar lawr.

15. Dyma Samuel yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti wedi tarfu arna i, a'm galw i fyny?” A dyma Saul yn ateb, “Dw i mewn helynt. Mae'r Philistiaid wedi dod i ryfela yn fy erbyn i, ac mae Duw wedi troi cefn arna i. Dydy e ddim yn fy ateb i drwy'r proffwydi na trwy freuddwydion. Dyna pam dw i wedi dy alw di. Dw i eisiau i ti ddweud wrtho i be i'w wneud.”

16. Dyma Samuel yn ei ateb, “Os ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnat ti a throi'n elyn i ti, pam ti'n troi ata i?

17. Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yn union beth wnes i broffwydo! Mae e wedi rhwygo'r deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i Dafydd.

18. Wnest ti ddim gwrando ar yr ARGLWYDD, na gwneud beth oedd e eisiau i ti ei wneud i'r Amaleciaid. Dyna pam mae e'n gwneud hyn i ti nawr.

19. Bydd e'n dy roi di ac Israel yn nwylo'r Philistiaid. Erbyn fory byddi di a dy feibion yn yr un lle â fi. Bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi byddin Israel yn nwylo'r Philistiaid.”

20. Pan glywodd Saul beth ddwedodd Samuel dyma fe'n syrthio ar ei hyd ar lawr. Roedd wedi dychryn trwyddo, a doedd ganddo ddim nerth o gwbl am ei fod heb fwyta drwy'r dydd na'r nos.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 28