Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 25:4-10 beibl.net 2015 (BNET)

4. Pan oedd Dafydd yn yr anialwch clywodd fod Nabal yn cneifio yn Carmel.

5. Dyma fe'n anfon deg o'i weision ifanc ato. Meddai wrthyn nhw, “Ewch i weld Nabal yn Carmel, a'i gyfarch e i mi.

6. Dwedwch wrtho, ‘Heddwch a llwyddiant i ti a dy deulu! Gobeithio y cei di flwyddyn dda!

7. Ro'n i'n clywed dy fod yn cneifio. Pan oedd dy fugeiliaid di gyda ni yn Carmel, wnaethon ni ddim tarfu arnyn nhw na dwyn dim pan oedden nhw yno.

8. Gofyn i dy weision; gallan nhw ddweud wrthot ti mai felly roedd hi. Felly, wnei di fod yn garedig at fy ngweision i? Maen nhw wedi dod i dy weld ar ddydd gŵyl. Oes gen ti rywbeth i'w sbario i'w roi i dy weision ac i dy was Dafydd?’”

9. Felly dyma'r gweision ifanc yn mynd ac yn cyfarch Nabal ar ran Dafydd, yn union fel roedd e wedi dweud wrthyn nhw. Dyma nhw'n disgwyl

10. iddo ateb. Yna meddai Nabal. “Dafydd? Pwy mae e'n feddwl ydy e? Mab Jesse? Mae yna gymaint o weision yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth eu meistri y dyddiau yma!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 25