Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 25:30-44 beibl.net 2015 (BNET)

30. Pan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud popeth mae e wedi addo i ti, a dy wneud di'n arweinydd Israel,

31. fydd dy gydwybod ddim yn dy boeni am dy fod wedi tywallt gwaed am ddim rheswm, a dial drosot ti dy hun. A pan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud hyn i gyd i'm meistr, cofia amdana i, dy forwyn.”

32. Dyma Dafydd yn ateb, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, am iddo dy anfon di ata i!

33. Diolch i ti am dy gyngor doeth, a bendith Duw arnat ti. Ti wedi fy rhwystro i, heddiw, rhag tywallt gwaed yn ddiangen a dial trosof fy hun.

34. Yn wir i ti, oni bai dy fod ti wedi brysio i ddod ata i, fyddai gan Nabal ddim un dyn ar ôl yn fyw erbyn y bore. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel wedi fy rhwystro i rhag gwneud drwg heddiw.”

35. Yna dyma Dafydd yn cymryd y pethau roedd hi wedi dod â nhw iddo. “Dos adre'n dawel dy feddwl. Dw i wedi gwrando, a bydda i'n gwneud beth rwyt ti eisiau.”

36. Pan aeth Abigail yn ôl at Nabal roedd yn cynnal parti mawr fel petai'n frenin. Roedd yn cael amser da ac wedi meddwi'n gaib. Felly ddwedodd Abigail ddim byd o gwbl wrtho tan y bore.

37. Yna'r bore wedyn, ar ôl iddo sobri, dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Pan glywodd Nabal, dyma fe'n cael strôc. Roedd yn gorwedd wedi ei barlysu.

38. Rhyw ddeg diwrnod wedyn dyma Duw ei daro, a buodd farw.

39. Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi marw, dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi dial drosta i am y sarhad ges i gan Nabal. Mae wedi fy nghadw i rhag gwneud drwg ac wedi talu nôl i Nabal.” Yna dyma fe'n anfon neges at Abigail yn gofyn iddi ei briodi e.

40. Dyma weision Dafydd yn mynd i Carmel at Abigail a dweud wrthi, “Mae Dafydd wedi'n hanfon ni i ofyn i ti ei briodi e.”

41. Cododd Abigail plygu yn isel o'u blaenau nhw, a dweud, “Byddwn i, eich morwyn chi, yn hapus i fod yn gaethferch sy'n golchi traed gweision fy meistr.”

42. Yna dyma hi'n brysio mynd ar gefn ei hasyn, ac aeth â pum morwyn gyda hi. Aeth yn ôl gyda gweision Dafydd, a dod yn wraig iddo.

43. Roedd Dafydd wedi priodi Achinoam o Jesreel hefyd. Roedd y ddwy yn wragedd iddo.

44. (Roedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, oedd wedi bod yn wraig i Dafydd, i Paltiel fab Laish o dref Galîm.)

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 25