Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 24:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. Edrych, syr. Ie, edrych – dyma gornel dy fantell di yn fy llaw i. Gwnes i dorri cornel dy fantell di, ond wnes i ddim dy ladd di. Dw i eisiau i ti ddeall nad ydw i'n gwrthryfela, nac yn bwriadu dim drwg i ti. Dw i ddim wedi gwneud cam â thi er dy fod ti ar fy ôl i yn ceisio fy lladd i.

12. Caiff yr ARGLWYDD farnu rhyngon ni'n dau. Caiff e ddial arnat ti, ond wna i ddim dy gyffwrdd di.

13. Fel mae'r hen ddihareb yn dweud, ‘O'r rhai drwg y daw drygioni.’ Wna i ddim drwg i ti.

14. Ar ôl pwy mae brenin Israel wedi dod allan? Pwy wyt ti'n ceisio'i ddal? Dw i'n neb. Ci marw ydw i! Chwannen!

15. Boed i'r ARGLWYDD farnu rhyngon ni'n dau. Bydd e'n ystyried yr achos ac yn dadlau o'm plaid i. Bydd e'n fy achub i o dy afael di!”

16. Ar ôl i Dafydd ddweud hyn, dyma Saul yn ei ateb, “Ai ti sydd yna go iawn, Dafydd, machgen i?” A dyma fe'n dechrau crïo'n uchel.

17. Yna dyma fe'n dweud, “Ti'n well dyn na fi. Ti wedi bod yn dda ata i er fy mod i wedi ceisio gwneud drwg i ti.

18. Ti wedi dangos hynny heddiw drwy fod yn garedig ata i. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi'r cyfle i ti fy lladd i, ond wnest ti ddim.

19. Pan mae dyn yn dod o hyd i'w elyn, ydy e'n ei ollwng e'n rhydd? Boed i'r ARGLWYDD fod yn dda atat ti am beth wnest ti i mi heddiw.

20. Gwranda, dw i'n gwybod yn iawn mai ti fydd yn frenin, a bydd teyrnas Israel yn llwyddo yn dy law di.

21. Addo i mi, o flaen yr ARGLWYDD, na fyddi di'n lladd fy mhlant i gyd, a gadael neb i gario enw'r teulu yn ei flaen.”

22. Ar ôl i Dafydd addo hynny ar lw i Saul, dyma Saul yn mynd adre, a dyma Dafydd a'i ddynion yn mynd yn ôl i fyny i'w guddfan.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 24