1. Pan ddaeth Saul yn ôl ar ôl bod yn ymladd yn erbyn y Philistiaid dyma nhw'n dweud wrtho fod Dafydd yn anialwch En-gedi.
2. Dewisodd Saul dair mil o filwyr gorau Israel, a mynd i Greigiau'r Geifr Gwyllt i chwilio am Dafydd.
3. Ar y ffordd, wrth ymyl corlannau'r defaid, roedd yna ogof. Roedd Saul eisiau mynd i'r tŷ bach, felly aeth i mewn i'r ogof. Roedd Dafydd a'i ddynion yn cuddio ym mhen draw'r ogof ar y pryd.
4. A dyma'r dynion yn dweud wrth Dafydd, “Dyma ti'r diwrnod y dwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti amdano, ‘Bydda i'n rhoi dy elyn yn dy afael, a chei wneud fel y mynni gydag e.’” A dyma Dafydd a mynd draw yn ddistaw bach, a thorri cornel mantell Saul i ffwrdd.
5. Ond wedyn roedd ei gydwybod yn ei boeni am ei fod wedi torri cornel mantell Saul.
6. Meddai wrth ei ddynion, “Ddylwn i ddim bod wedi gwneud y fath beth. Sut allwn i wneud dim yn erbyn fy meistr? Fe ydy'r brenin wedi ei eneinio gan yr ARGLWYDD.”
7. A dyma Dafydd yn rhwystro ei ddynion rhag ymosod ar Saul. Felly dyma Saul yn mynd allan o'r ogof ac ymlaen ar ei ffordd.
8. Yna dyma Dafydd yn mynd allan a gweiddi ar ei ôl, “Fy mrenin! Meistr!” Trodd Saul rownd i edrych, a dyma Dafydd yn ymgrymu iddo â'i wyneb ar lawr.
9. A dyma Dafydd yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti'n gwrando ar y straeon fy mod i eisiau gwneud niwed i ti?