“Mae cleddyf Goliath yma – y Philistiad wnest ti ei ladd yn Nyffryn Ela,” meddai'r offeiriad. “Mae wedi ei lapio mewn clogyn tu ôl i'r effod. Cei gymryd hwnnw os wyt ti eisiau. Hwnnw ydy'r unig un sydd yma.” Atebodd Dafydd, “Does dim un tebyg iddo! Rho fe i mi.”