Ond roedd Dafydd yn taeru. “Mae dy dad yn gwybod yn iawn gymaint o ffrindiau ydyn ni. Mae'n rhaid ei fod e'n meddwl, ‘Alla i ddim dweud wrth Jonathan, neu bydd e wedi ypsetio.’ Does dim amheuaeth am y peth, dw i o fewn dim i farw.”