Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 19:18-24 beibl.net 2015 (BNET)

18. Roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc at Samuel i Rama. Dwedodd wrth Samuel beth oedd Saul wedi bod yn ei wneud iddo. Yna dyma fe a Samuel yn mynd i aros gyda'r gymuned o broffwydi.

19. Ond dwedodd rhywun wrth Saul fod Dafydd gyda'r gymuned yn Rama.

20. Felly dyma Saul yn anfon ei weision yno i arestio Dafydd. Ond pan gyrhaeddon nhw dyma nhw'n gweld grŵp o broffwydi yn proffwydo, a Samuel yn eu harwain nhw. A dyma Ysbryd Duw yn dod ar weision Saul, nes iddyn nhw hefyd ddechrau proffwydo.

21. Pan glywodd Saul beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon gweision eraill. Ond dyma'r rheiny hefyd yn dechrau proffwydo. Dyma Saul yn anfon trydydd criw, a dyma'r un peth yn digwydd iddyn nhw hefyd.

22. Yna dyma Saul ei hun yn mynd i Rama. Pan ddaeth at y pydew mawr yn Sechw dyma fe'n holi ble roedd Samuel a Dafydd. “Yn aros gyda'r gymuned o broffwydi yn Rama,” meddai rhywun wrtho.

23. Pan oedd Saul ar ei ffordd yno daeth Ysbryd Duw arno – ie, arno fe hefyd! Aeth yn ei flaen yn proffwydo yr holl ffordd, nes iddo gyrraedd y gymuned yn Rama.

24. Yna dyma Saul hefyd yn tynnu ei ddillad i ffwrdd a proffwydo o flaen Samuel. Bu'n gorwedd yno'n noeth trwy'r dydd a'r nos. (Dyna o lle daeth y dywediad, “Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?”)

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 19