1. Dyma Saul yn cyfadde i'w fab Jonathan, a'i swyddogion i gyd, ei fod eisiau lladd Dafydd. Ond roedd Jonathan yn hoff iawn iawn o Dafydd.
2. Felly dyma Jonathan yn dweud wrth Dafydd, “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Felly gwylia dy hun bore fory. Dos i guddio yn rhywle ac aros yno o'r golwg.
3. Gwna i fynd allan a sefyll gyda dad yn agos i lle byddi di. Gwna i siarad gydag e ar dy ran di, a gweld beth fydd ei ymateb e. Gwna i adael i ti wybod.”
4. Felly dyma Jonathan yn siarad ar ran Dafydd gyda Saul, ei dad. Dwedodd wrtho, “Paid gwneud cam â dy was Dafydd, achos dydy e erioed wedi gwneud dim byd yn dy erbyn di. Mae popeth mae e wedi ei wneud wedi bod yn dda i ti.
5. Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti'n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae'n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed – lladd Dafydd am ddim rheswm?”
6. Dyma Saul yn gwrando ar gyngor Jonathan, ac addo ar lw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, wna i ddim ei ladd e!”
7. Felly dyma Jonathan yn galw Dafydd a dweud wrtho beth ddigwyddodd. Aeth ag e at Saul, a cafodd Dafydd weithio iddo fel o'r blaen.
8. Roedd rhyfel unwaith eto, a dyma Dafydd yn mynd allan i ymladd y Philistiaid. Trechodd nhw'n llwyr nes iddyn nhw redeg i ffwrdd o'i flaen.
9. A dyma'r ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD yn dod ar Saul eto. Roedd yn eistedd yn ei dŷ a gwaywffon yn ei law, tra roedd Dafydd yn canu'r delyn.
10. A dyma Saul yn trïo trywanu Dafydd a'i hoelio i'r wal gyda'i waywffon. Ond dyma Dafydd yn llwyddo i'w hosgoi ac aeth y waywffon i'r wal, a rhedodd Dafydd i ffwrdd.Y noson honno
11. dyma Saul yn anfon dynion i wylio tŷ Dafydd er mwyn ei ladd yn y bore. Ond roedd Michal, gwraig Dafydd, wedi dweud wrtho, “Os gwnei di ddim dianc am dy fywyd heno, byddi wedi marw fory.”
12. A dyma Michal yn gollwng Dafydd allan drwy'r ffenest. A dyna sut wnaeth e ddianc.
13. Yna dyma Michal yn rhoi eilun-ddelw teuluol yn y gwely, rhoi carthen o flew geifr wrth ei ben, a rhoi dillad Dafydd drosto.