44. a gweiddi, “Tyrd yma i mi gael dy roi di'n fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion!”
45. Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti'n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i'n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD holl-bwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti'n ei herio.
46. Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i'n mynd i dy ladd di a torri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw.
47. A bydd pawb sydd yma yn dod i weld fod yr ARGLWYDD ddim yn achub gyda chleddyf a gwaywffon. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e'n eich rhoi chi yn ein gafael ni.”
48. Dyma'r Philistiad yn symud yn nes at Dafydd i ymosod arno. A dyma Dafydd yn rhedeg at y rhengoedd i'w gyfarfod.
49. Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a'i hyrddio at y Philistiad gyda'i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr.
50. (Dyna sut wnaeth Dafydd guro'r Philistiad gyda ffon-dafl a charreg. Doedd ganddo ddim cleddyf hyd yn oed!)
51. Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe'n tynnu cleddyf y Philistiad allan o'r wain, ei ladd, a torri ei ben i ffwrdd.Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi ei ladd, dyma nhw'n ffoi.
52. A dyma fyddin Israel a Jwda yn rhuthro ymlaen gan weiddi “I'r gâd!”, a mynd ar ôl y Philistiaid ar hyd y dyffryn nes cyrraedd giatiau tref Ecron. Roedd cyrff y Philistiaid yn gorwedd ar hyd y ffordd o Shaaraim i Gath ac Ecron.
53. Pan ddaeth dynion Israel yn ôl wedi'r ymlid gwyllt ar ôl y Philistiaid dyma nhw'n ysbeilio'u gwersyll.
54. (Aeth Dafydd â pen y Philistiad i Jerwsalem, ond cadwodd ei arfau yn ei babell.)
55. Pan welodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten y fyddin, “Mab i bwy ydy'r bachgen acw, Abner?” “Dw i wir ddim yn gwybod, syr,” atebodd Abner.
56. A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Dos i holi mab i bwy ydy e.”
57. Felly pan ddaeth Dafydd yn ôl wedi lladd y Philistiad, dyma Abner yn mynd ag e at y brenin. Roedd pen y Philistiaid yn ei law.