Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â'r dynion o'i gwmpas. Roedd wedi gwylltio gyda Dafydd ac meddai, “Pam ddest ti i lawr yma? Pwy sy'n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i'n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.”