Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Samuel, “Am faint wyt ti'n mynd i ddal i deimlo'n drist am Saul? Dw i wedi ei wrthod e fel brenin ar Israel. Llenwa gorn gydag olew olewydd a dos i Bethlehem at ddyn o'r enw Jesse. Dw i wedi dewis un o'i feibion e i fod yn frenin i mi.”