Dyma Saul a'i fyddin yn gadael i Agag fyw, a dyma nhw hefyd yn cadw'r gorau o'r defaid a'r geifr, y gwartheg, y lloi, yr ŵyn ac unrhyw beth arall oedd o werth. Doedden nhw ddim am ladd yr anifeiliaid gorau, ond cafodd y rhai gwael a diwerth i gyd eu lladd.