24. Dyma Saul yn cyfaddef i Samuel, “Dw i wedi pechu. Dw i wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD a gwrthod gwrando arnat ti. Roedd gen i ofn y milwyr, a dyma fi'n gwneud beth oedden nhw eisiau.
25. Plîs maddau i mi. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD.”
26. “Na,” meddai Samuel, “wna i ddim mynd yn ôl hefo ti. Ti wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ac mae e wedi dy wrthod di yn frenin ar Israel.”
27. Wrth i Samuel droi i adael, dyma Saul yn gafael yn ymyl ei fantell, a dyma hi'n rhwygo.
28. Dyma Samuel yn dweud wrtho, “Mae'r ARGLWYDD wedi rhwygo'r deyrnas oddi arnat ti heddiw, a'i rhoi hi i rywun arall gwell na ti.
29. Dydy Un Godidog Israel, ddim yn dweud celwydd nac yn newid ei feddwl. Dydy e ddim fel person dynol sy'n newid ei feddwl o hyd.”
30. “Dw i wedi pechu”, meddai Saul eto. “Ond plîs dangos barch ata i o flaen arweinwyr a phobl Israel. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD dy Dduw.”
31. Felly aeth Samuel yn ôl gyda Saul, a dyma Saul yn addoli'r ARGLWYDD.
32. Yna dyma Samuel yn dweud, “Dewch ag Agag, brenin yr Amaleciaid, ata i.” Daeth Agag ato yn ansicr a nerfus, gan feddwl, “Wnân nhw ddim fy lladd i bellach, siawns?”
33. Ond dyma Samuel yn dweud, “Fel gwnaeth dy gleddyf di adael gwragedd heb blant, bydd dy fam di yn galaru nawr.” A dyma fe'n hacio Agag i farwolaeth o flaen yr ARGLWYDD yn Gilgal.
34. Wedyn aeth Samuel yn ôl i Rama, a Saul adre i Gibea
35. Wnaeth Samuel ddim gweld Saul byth wedyn. Ond roedd yn dal i deimlo mor drist amdano. Roedd yr ARGLWYDD, ar y llaw arall, yn sori ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel.