Ond dyma'r milwyr yn ateb, “Pam ddylai Jonathan farw? Mae e wedi ennill buddugoliaeth fawr i Israel heddiw. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw ddylai dim byd ddigwydd iddo. Roedd e'n gweithio gyda Duw heddiw.” Felly dyma'r milwyr yn achub Jonathan, a chafodd fyw.