Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 14:30-40 beibl.net 2015 (BNET)

30. Petai'r dynion wedi cael bwyta'r bwyd adawodd y gelynion heddiw, bydden ni wedi lladd llawer mwy o'r Philistiaid!”

31. Y diwrnod hwnnw llwyddodd y fyddin i daro'r Philistiaid yr holl ffordd o Michmas i Aialon, ond roedden nhw wedi blino'n lân.

32. Felly dyma nhw'n rhuthro ar yr ysbail a chymryd defaid, gwartheg a lloi. Yna eu lladd nhw yn y fan a'r lle, a bwyta'r cig, y gwaed a'r cwbl.

33. Dwedodd rhywun wrth Saul fod y bobl wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy fwyta gwaed. A dyma Saul yn dweud, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon. Rholiwch garreg fawr yma ata i.

34. Yna ewch at y dynion a dweud wrthyn nhw fod rhaid i bawb ddod â'i fustach a'i ddafad i'r fan yma i'w ladd cyn ei fwyta. Dwedwch wrthyn nhw am beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy fwyta'r gwaed.”Felly'r noson honno, dyma pawb yn mynd â'i anifail yno i'w ladd.

35. A dyna sut wnaeth Saul godi allor i'r ARGLWYDD am y tro cyntaf.

36. Dyma Saul yn dweud, “Dewch i ni fynd i lawr ar ôl y Philistiaid yn y nos, a'u taro nhw nes bydd hi'n fore. Fydd yna run ohonyn nhw ar ôl!” A dyma'r dynion yn ateb, “Beth bynnag wyt ti'n feddwl sydd orau.” Ond dyma'r offeiriad yn dweud, “Gadewch i ni ofyn i Dduw gyntaf.”

37. Felly dyma Saul yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd ar ôl y Philistiaid? Wnei di adael i Israel ennill y frwydr?” Ond gafodd e ddim ateb y diwrnod hwnnw.

38. Felly dyma Saul yn galw arweinwyr y fyddin ato a dweud wrthyn nhw, “Rhaid darganfod pwy sydd wedi pechu yma heddiw.

39. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, achubwr Israel, yn fyw – hyd yn oed os mai fy mab i fy hun, Jonathan, ydy e – bydd rhaid iddo farw!” Ond wnaeth neb o'r milwyr ddweud gair.

40. Felly dyma fe'n dweud wrth fyddin Israel, “Safwch chi i gyd yr ochr yna, a gwna i a fy mab Jonathan sefyll gyferbyn â chi.” A dyma'r dynion yn ateb, “Beth bynnag wyt ti'n feddwl sydd orau.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 14