Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 14:16-22 beibl.net 2015 (BNET)

16. Roedd gan Saul wylwyr yn Gibea yn Benjamin, a dyma nhw'n gweld milwyr y Philistiaid yn dyrfa yn diflannu i bob cyfeiriad.

17. “Galwch y milwyr at ei gilydd i weld pwy sydd ar goll,” meddai Saul. A pan wnaethon nhw hynny dyma nhw'n ffeindio fod Jonathan a'r gwas oedd yn cario'i arfau ddim yno.

18. Felly dyma Saul yn dweud wrth Achïa'r offeiriad, “Tyrd â'r Arch yma.” (Roedd Arch Duw allan gyda byddin Israel ar y pryd.)

19. Ond tra roedd Saul yn siarad â'r offeiriad, roedd y panig yng ngwersyll y Philistiaid yn mynd o ddrwg i waeth. Felly dyma Saul yn dweud wrtho, “Anghofia hi.”

20. A dyma Saul yn galw ei fyddin at ei gilydd a mynd allan i'r frwydr.Roedd byddin y Philistiaid mewn anhrefn llwyr. Dyna lle roedden nhw yn lladd ei gilydd!

21. Roedd yr Hebreaid hynny oedd wedi ymuno â byddin y Philistiaid cyn hyn wedi troi i ymladd ar ochr yr Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.

22. Ac wedyn, pan glywodd yr Israeliaid oedd wedi bod yn cuddio ym mryniau Effraim fod y Philistiaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn mynd ar eu holau.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 14