Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 14:14-32 beibl.net 2015 (BNET)

14. Yn yr ymosodiad cyntaf yma, lladdodd Jonathan a'i was tua dau ddeg o ddynion mewn llai na can llath.

15. Yna roedd yna ddaeargryn, a dyma banig llwyr yn dod dros fyddin y Philistiaid – yn y gwersyll, allan ar y maes, y fintai i gyd a'r grwpiau oedd wedi mynd allan i ymosod ar Israel. Duw oedd wedi achosi'r panig yma.

16. Roedd gan Saul wylwyr yn Gibea yn Benjamin, a dyma nhw'n gweld milwyr y Philistiaid yn dyrfa yn diflannu i bob cyfeiriad.

17. “Galwch y milwyr at ei gilydd i weld pwy sydd ar goll,” meddai Saul. A pan wnaethon nhw hynny dyma nhw'n ffeindio fod Jonathan a'r gwas oedd yn cario'i arfau ddim yno.

18. Felly dyma Saul yn dweud wrth Achïa'r offeiriad, “Tyrd â'r Arch yma.” (Roedd Arch Duw allan gyda byddin Israel ar y pryd.)

19. Ond tra roedd Saul yn siarad â'r offeiriad, roedd y panig yng ngwersyll y Philistiaid yn mynd o ddrwg i waeth. Felly dyma Saul yn dweud wrtho, “Anghofia hi.”

20. A dyma Saul yn galw ei fyddin at ei gilydd a mynd allan i'r frwydr.Roedd byddin y Philistiaid mewn anhrefn llwyr. Dyna lle roedden nhw yn lladd ei gilydd!

21. Roedd yr Hebreaid hynny oedd wedi ymuno â byddin y Philistiaid cyn hyn wedi troi i ymladd ar ochr yr Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.

22. Ac wedyn, pan glywodd yr Israeliaid oedd wedi bod yn cuddio ym mryniau Effraim fod y Philistiaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn mynd ar eu holau.

23. A dyma'r brwydro yn lledu tu draw i Beth-afen.Yr ARGLWYDD wnaeth achub Israel y diwrnod hwnnw.

24. Ond roedd byddin Israel wedi llwyr ymlâdd y diwrnod hwnnw, am fod Saul wedi gwneud iddyn nhw dyngu llw a dweud, “Melltith ar unrhyw un fydd yn bwyta unrhyw beth cyn iddi nosi – cyn i mi ddial ar fy ngelynion.” Felly doedd neb wedi bwyta o gwbl.

25-26. Dyma'r fyddin i gyd yn mynd i goedwig, ac roedd diliau mêl ar lawr ym mhob man. Er eu bod nhw'n gweld y mêl yn diferu, wnaeth neb gymryd dim am fod arnyn nhw ofn y felltith.

27. Ond doedd Jonathan ddim wedi clywed ei dad yn gwneud i bawb dyngu'r llw. Felly dyma fe'n estyn blaen ei ffon i'r mêl, ac yna ei rhoi yn ei geg. Ac roedd wedi ei adfywio'n llwyr.

28. Dyma un o'r dynion yn dweud wrtho, “Gwnaeth dy dad i'r milwyr dyngu llw, a dweud, ‘Melltith ar unrhyw un sy'n bwyta unrhyw fwyd heddiw.’ Dyna pam mae'r dynion i gyd yn teimlo mor wan.”

29. A dyma Jonathan yn ateb, “Mae dad wedi gwneud pethau'n anodd i bawb. Edrychwch gymaint gwell dw i'n teimlo ar ôl blasu'r mymryn bach yna o fêl!

30. Petai'r dynion wedi cael bwyta'r bwyd adawodd y gelynion heddiw, bydden ni wedi lladd llawer mwy o'r Philistiaid!”

31. Y diwrnod hwnnw llwyddodd y fyddin i daro'r Philistiaid yr holl ffordd o Michmas i Aialon, ond roedden nhw wedi blino'n lân.

32. Felly dyma nhw'n rhuthro ar yr ysbail a chymryd defaid, gwartheg a lloi. Yna eu lladd nhw yn y fan a'r lle, a bwyta'r cig, y gwaed a'r cwbl.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 14