Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 14:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Un diwrnod dyma Jonathan, mab Saul, yn dweud wrth y gwas oedd yn cario ei arfau, “Tyrd, gad i ni groesi drosodd i wersyll y Philistiaid.” Ond ddwedodd e ddim am y peth wrth ei dad.

2. Roedd Saul yn eistedd o dan y goeden pomgranadau sydd wrth ymyl Migron ar gyrion Gibea. Roedd tua chwe chant o ddynion gydag e,

3. ac Achïa oedd yn cario'r effod. (Roedd Achïa yn fab i Achitwf brawd Ichabod a mab Phineas fab Eli oedd yn arfer bod yn offeiriad yn Seilo.) Doedd neb o'r fyddin yn gwybod fod Jonathan wedi mynd.

4. Roedd clogwyni uchel bob ochr i'r bwlch roedd Jonathan yn anelu ato i fynd at wersyll y Philistiaid. Enwau'r clogwyni oedd Botsets a Senne.

5. Roedd un i'r gogledd ar ochr Michmas, a'r llall i'r de ar ochr Geba.

6. Dyma Jonathan yn dweud wrth y gwas oedd yn cario ei arfau, “Tyrd, gad i ni fynd draw i wersyll y paganiaid acw. Falle bydd yr ARGLWYDD yn ein helpu ni. Mae'r un mor hawdd iddo achub hefo criw bach ag ydy hi gyda byddin fawr.”

7. A dyma'i was yn ateb, “Gwna beth bynnag wyt ti eisiau. Dos amdani. Bydda i gyda ti bob cam.”

8. Meddai Jonathan, “Dyma be wnawn ni. Awn ni drosodd at y dynion a gadael iddyn nhw ein gweld ni.

9. Os dwedan nhw ‘Arhoswch yna nes i ni ddod atoch chi,’ gwnawn ni aros lle rydyn ni.

10. Ond os dwedan nhw, ‘Dewch i fyny yma,’ awn ni atyn nhw. Bydd hynny'n arwydd fod yr ARGLWYDD yn eu rhoi nhw yn ein gafael ni.”

11. Felly dyma'r ddau'n mynd, a dangos eu hunain i fyddin y Philistiaid. A dyma'r rheiny yn dweud, “Edrychwch! Mae'r Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle maen nhw wedi bod yn cuddio!”

12. Gwaeddodd y dynion oedd yn gwylio ar Jonathan a'i gludwr arfau, “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!” A dyma Jonathan yn dweud wrth ei was, “Dilyn fi, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i Israel.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 14