Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 11:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Nachash, brenin Ammon, yn arwain ei fyddin i ymosod ar dref Jabesh yn Gilead. Dyma ddynion Jabesh yn dweud wrth Nachash, “Gwna gytundeb â ni, a down ni'n weision i ti.”

2. Dyma Nachash yn ateb, “Gwna i gytundeb â chi, ond bydd rhaid tynnu allan llygad dde pob un ohonoch chi. Fel yna bydda i yn codi cywilydd ar Israel gyfan.”

3. Dyma arweinwyr Jabesh yn dweud wrtho, “Gad lonydd i ni am wythnos, i ni gael anfon negeswyr i bobman yn Israel. Os fydd neb yn barod i ddod i'n hachub ni, byddwn ni'n ildio i ti.”

4. Pan ddaeth y negeswyr i Gibea (lle roedd Saul yn byw) a dweud beth oedd yn digwydd dyma'r bobl i gyd yn dechrau crïo'n uchel.

5. Ar y pryd roedd Saul ar ei ffordd adre o'r caeau gyda'i ychen. “Be sy'n bod?” meddai. “Pam mae pawb yn crïo?” A dyma nhw'n dweud am neges pobl Jabesh wrtho.

6. Pan glywodd Saul hyn, dyma Ysbryd Duw yn dod arno'n rymus. Roedd wedi gwylltio'n lân.

7. Dyma fe'n lladd pâr o ychen a'u torri nhw'n ddarnau mân, ac anfon negeswyr gyda'r darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i fod i gyhoeddi: “Pwy bynnag sy'n gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd i'w ychen e!” Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhw'n dod allan fel un dyn.

8. Pan wnaeth Saul eu cyfri nhw yn Besec, roedd yna 300,000 o ddynion o Israel a 30,000 o Jwda.

9. Dyma nhw'n dweud wrth y negeswyr oedd wedi dod o Jabesh, “Dwedwch wrth bobl Jabesh yn Gilead, ‘Erbyn canol dydd fory, byddwch wedi'ch achub.’” Pan aeth y negeswyr a dweud hyn wrth bobl Jabesh, roedden nhw wrth eu boddau.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 11