Dyma Samuel yn cymryd potel o olew olewydd a'i dywallt ar ben Saul. Yna ei gyfarch e gyda chusan, a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn dy eneinio di i arwain ei bobl e, Israel. Byddi'n arwain ei bobl ac yn eu hachub nhw o afael y gelynion sydd o'u cwmpas. A dyma beth fydd yn digwydd i ddangos i ti mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy ddewis di i arwain ei bobl: