Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 7:4-17 beibl.net 2015 (BNET)

4. Yn ôl y cofrestrau teuluol, roedd 36,000 o ddynion yn barod i ryfela am fod ganddyn nhw lot o wragedd a phlant.

5. Roedd cyfanswm o 87,000 o ddynion dewr wedi eu rhestru ar gofrestrau teuluol claniau Issachar.

6. Meibion Benjamin (tri i gyd):Bela, Becher, a Iediael.

7. Meibion Bela:Etsbon, Wssi, Wssiel, Ierimoth, ac Iri. Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid eu teuluoedd. Roedd 22,034 wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol.

8. Meibion Becher:Semira, Ioash, Elieser, Elioenai, Omri, Ieremoth, Abeia, Anathoth, ac Alemeth. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Becher.

9. Roedd 20,200 o benaethiaid teulu a rhyfelwyr wedi eu rhestru yn eu cofrestrau teuluol.

10. Mab Iediael:Bilhan.Meibion Bilhan:Iewsh, Benjamin, Ehwd, Cenaana, Seithan, Tarshish, ac Achishachar.

11. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion Iediael. Roedd 17,200 o benaethiaid teulu a rhyfelwyr yn barod i ymladd wedi eu rhestru yn eu cofrestrau teuluol.

12. Roedd y Shwpiaid a'r Chwpiaid yn ddisgynyddion i Ir; a'r Chwshiaid yn ddisgynyddion i Acher.

13. Meibion Nafftali:Iachtseël, Gwni, Jeser, a Shalwm – meibion Bilha.

14. Meibion Manasse:Asriel (gafodd ei eni i bartner Syriaidd Manasse. A'i phlentyn hi hefyd oedd Machir, tad Gilead.

15. Priododd Machir un o wragedd y Chwpiaid a'r Shwpiaid, ac roedd ganddo chwaer o'r enw Maacha.) Yna ail fab Manasse oedd Seloffchad (Dim ond merched gafodd hwnnw yn blant.)

16. Dyma Maacha, gwraig Machir, yn cael mab, a'i alw yn Peresh. Roedd ganddo frawd o'r enw Sheresh, ac enw ei feibion oedd Wlam a Recem.

17. Mab Wlam:Bedan.Y rhain oedd disgynyddion Gilead, mab Machir ac ŵyr Manasse.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 7