Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 7:22-30 beibl.net 2015 (BNET)

22. Bu Effraim, eu tad, yn galaru amdanyn nhw am amser maith, a dyma ei frodyr yn dod i'w gysuro.)

23. Yna dyma fe'n cysgu gyda'i wraig a dyma hi'n beichiogi ac yn cael bachgen arall. Galwodd Effraim e yn Bereia, am fod pethau wedi bod yn ddrwg ar ei deulu.

24. (Merch Bereia oedd Sheëra, wnaeth adeiladu Beth-choron Isaf ac Uchaf, a hefyd Wssen-sheëra.)

25. Reffach oedd ei fab, Resheff yn fab i hwnnw, yna i lawr drwy Telach, Tachan,

26. Ladan, Amihwd, Elishama,

27. Nwn, i Josua.

28. Roedd eu tir nhw a'u cartrefi yn cynnwys Bethel a'i phentrefi, ac yn ymestyn i'r dwyrain at Naäran, ac i'r gorllewin at Geser a'i phentrefi. Hefyd Sichem a'i phentrefi cyn belled ag Aia a'i phentrefi yn y gogledd.

29. Ar ffiniau tiriogaeth Manasse roedd trefi Beth-shean Taanach, Megido a Dor a'r pentrefi o'u cwmpas. Disgynyddion Joseff, mab Israel, oedd yn byw yno.

30. Meibion Asher:Imna, Ishfa, Ishfi, a Bereia. A Serach oedd eu chwaer.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 7