Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 7:18-37 beibl.net 2015 (BNET)

18. Ei chwaer Hamolecheth oedd mam Ish-hod, Abieser a Machla.

19. Meibion Shemida oedd Acheian, Sichem, Lichi, ac Aniam.

20. Disgynyddion Effraim:Shwtelach, ei fab Bered, wedyn i lawr y cenedlaethau drwy Tachath, Elada, Tachath,

21. Safad, i Shwtelach.(Cafodd Eser ac Elead, dau fab arall Effraim, eu lladd gan rai o ddisgynyddion Gath oedd yn byw yn y wlad, pan aethon nhw i lawr i ddwyn eu gwartheg.

22. Bu Effraim, eu tad, yn galaru amdanyn nhw am amser maith, a dyma ei frodyr yn dod i'w gysuro.)

23. Yna dyma fe'n cysgu gyda'i wraig a dyma hi'n beichiogi ac yn cael bachgen arall. Galwodd Effraim e yn Bereia, am fod pethau wedi bod yn ddrwg ar ei deulu.

24. (Merch Bereia oedd Sheëra, wnaeth adeiladu Beth-choron Isaf ac Uchaf, a hefyd Wssen-sheëra.)

25. Reffach oedd ei fab, Resheff yn fab i hwnnw, yna i lawr drwy Telach, Tachan,

26. Ladan, Amihwd, Elishama,

27. Nwn, i Josua.

28. Roedd eu tir nhw a'u cartrefi yn cynnwys Bethel a'i phentrefi, ac yn ymestyn i'r dwyrain at Naäran, ac i'r gorllewin at Geser a'i phentrefi. Hefyd Sichem a'i phentrefi cyn belled ag Aia a'i phentrefi yn y gogledd.

29. Ar ffiniau tiriogaeth Manasse roedd trefi Beth-shean Taanach, Megido a Dor a'r pentrefi o'u cwmpas. Disgynyddion Joseff, mab Israel, oedd yn byw yno.

30. Meibion Asher:Imna, Ishfa, Ishfi, a Bereia. A Serach oedd eu chwaer.

31. Meibion Bereia:Heber a Malciel, oedd yn dad i Birsaith.

32. Heber oedd tad Jafflet, Shomer, a Chotham. A Shwa oedd eu chwaer.

33. Meibion Jafflet:Pasach, Bimhal, ac Ashfat. Y rhain oedd meibion Jafflet.

34. Meibion ei frawd Shemer:Roga, Chwba, ac Aram.

35. Meibion ei frawd Helem:Soffach, Imna, Shelesh, ac Amal.

36. Meibion Soffach:Swa, Char-neffer, Shwal, Beri, Imra,

37. Betser, Hod, Shamma, Shilsha, Ithran, a Beëra.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 7