1. Meibion Issachar (pedwar i gyd):Tola, Pwa, Iashŵf a Shimron.
2. Meibion Tola:Wssi, Reffaia, Ieriel, Iachmai, Ibsam a Shemwel. Nhw oedd pennau teuluoedd Tola. Roedd yna 22,600 o ddynion dewr wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol adeg Dafydd.
3. Mab Wssi:Israchïa.Meibion Israchïa:Michael, Obadeia, Joel ac Ishïa. (Roedd y pump ohonyn nhw yn benaethiaid.)
4. Yn ôl y cofrestrau teuluol, roedd 36,000 o ddynion yn barod i ryfela am fod ganddyn nhw lot o wragedd a phlant.