Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Meraioth oedd tad Amareia, ac Amareia yn dad i Achitwf.

8. Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Achimaats.

9. Achimaats oedd tad Asareia, ac Asareia oedd tad Iochanan.

10. A Iochanan oedd tad yr Asareia oedd yn offeiriad yn y deml roedd Solomon wedi ei hadeiladu yn Jerwsalem.

11. Asareia oedd tad Amareia, ac roedd Amareia yn dad i Achitwf.

12. Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Shalwm.

13. Roedd Shalwm yn dad i Chilceia, Chilceia i Asareia,

14. Asareia i Seraia, a Seraia i Iehotsadac.

15. Cafodd Iehotsadac ei gymryd yn gaeth pan wnaeth yr ARGLWYDD ddefnyddio Nebwchadnesar i gymryd pobl Jwda a Jerwsalem i'r gaethglud.

16. Meibion Lefi:Gershom, Cohath, a Merari.

17. Meibion Gershom:Libni a Shimei.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 6