Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6:69-77 beibl.net 2015 (BNET)

69. Aialon, a Gath-rimmon a'r tir pori o gwmpas pob un.

70. O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma weddill disgynyddion Cohath yn cael Aner a Bileam, a'r tir pori o'u cwmpas nhw.

71. Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Gershom:O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan ac Ashtaroth, a'r tir pori o'u cwmpas nhw.

72. O diriogaeth llwyth Issachar: Cedesh, Daberath,

73. Ramoth, ac Anem, a'r tir pori o gwmpas pob un.

74. O diriogaeth llwyth Asher: Mashal, Abdon,

75. Chwcoc, a Rechob, a'r tir pori o gwmpas pob un.

76. O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea, Hammon, a Ciriathaim, a'r tir pori o gwmpas y rheiny.

77. Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill disgynyddion Merari:O diriogaeth llwyth Sabulon: Rimmon a Tabor a'r tir pori o'u cwmpas.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 6