1. Meibion Lefi:Gershon, Cohath, a Merari.
2. Disgynyddion Cohath:Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel.
3. Plant Amram:Aaron, Moses, a Miriam.Meibion Aaron:Nadab, Abihw, Eleasar, ac Ithamar.
4. Eleasar oedd tad Phineas, Phineas yn dad i Afishŵa,
5. Afishŵa i Bwcci, a Bwcci i Wssi.
6. Wssi oedd tad Seracheia, Seracheia yn dad i Meraioth.
7. Meraioth oedd tad Amareia, ac Amareia yn dad i Achitwf.
8. Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Achimaats.
9. Achimaats oedd tad Asareia, ac Asareia oedd tad Iochanan.
10. A Iochanan oedd tad yr Asareia oedd yn offeiriad yn y deml roedd Solomon wedi ei hadeiladu yn Jerwsalem.
11. Asareia oedd tad Amareia, ac roedd Amareia yn dad i Achitwf.
12. Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Shalwm.
13. Roedd Shalwm yn dad i Chilceia, Chilceia i Asareia,
14. Asareia i Seraia, a Seraia i Iehotsadac.