Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 5:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Meibion Reuben, mab hynaf Israel (Reuben oedd y mab hynaf, ond am ei fod wedi cael rhyw gydag un o gariadon ei dad, dyma fe'n colli safle'r mab hynaf. Meibion Joseff, mab Israel, gafodd y safle yna yn ei le. Felly dydy'r achau ddim yn cael eu cyfrif yn ôl trefn geni.

2. Er bod Jwda wedi dod yn gryfach na'i frodyr, ac arweinydd wedi codi o'i ddisgynyddion, roedd safle'r mab hynaf yn mynd i Joseff.)

3. Meibion Reuben (mab hynaf Israel):Hanoch, Palw, Hesron, a Carmi.

4. Disgynyddion Joel:Shemaia ei fab, wedyn Gog mab hwnnw, ac ymlaen drwy Shimei,

5. Micha, Reaia, Baal,

6. i Beëra oedd wedi cael ei gymryd yn gaeth gan Tiglath-pileser, brenin Asyria. Beëra oedd pennaeth llwyth Reuben.

7. Dyma ei frodyr wedi eu rhestru yn ôl y drefn yn y cofrestrau teuluol:Y pennaeth oedd Jeiel, yna Sechareia,

8. yna Bela fab Asas, ŵyr Shema a gor-ŵyr Joel. Roedd y rhain yn byw yn Aroer, a'u tir yn ymestyn i Nebo a Baal-meon.

9. I'r dwyrain roedd eu tir yn cyrraedd ymyl yr anialwch sydd yr ochr yma i'r Afon Ewffrates. Roedd angen y tir yma i gyd am fod ganddyn nhw ormod o anifeiliaid i'w cadw yn Gilead.

10. Pan oedd Saul yn frenin dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid a'u trechu nhw. Dyma nhw'n cymryd y tir i gyd sydd i'r dwyrain o Gilead.

11. Roedd disgynyddion Gad yn byw wrth eu hymyl, yn Bashan, a'r holl ffordd i Salca yn y dwyrain:

12. Joel oedd yr arweinydd, wedyn Shaffam, Janai a Shaffat yn Bashan.

13. Eu perthnasau nhw, arweinwyr saith clan arall, oedd Michael, Meshwlam, Sheba, Iorai, Jacan, Sïa, ac Eber.

14. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Afichaïl fab Chwri, mab Iaroach, mab Gilead, mab Michael, mab Ieshishai, mab Iachdo, mab Bws.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 5