Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 4:6-15 beibl.net 2015 (BNET)

6. Naära oedd mam Achwsam, Cheffer, Temeni, a Haachashtari. Y rhain oedd meibion Naära.

7. Meibion Chela oedd Sereth, Sochar, Ethnan

8. a Cots (tad Anwf a Hatsobeba), a hefyd hynafiad teuluoedd Achar-chel fab Harwm.

9. Roedd Jabets yn cael ei barchu fwy na'i frodyr. (Rhoddodd ei fam yr enw Jabets iddo am ei bod wedi cael poenau ofnadwy pan gafodd e ei eni.)

10. Gweddïodd Jabets ar Dduw Israel, “Plîs bendithia fi, a rhoi mwy o dir i mi! Cynnal fi! Cadw fi'n saff fel bod dim rhaid i mi ddioddef!” A dyma Duw yn ateb ei weddi.

11. Celwb oedd brawd Shwcha a tad Mechir, a Mechir oedd tad Eshton.

12. Eshton oedd tad Bethraffa, Paseach a Techinna (tad Ir-nachash). Dyma bobl Recha.

13. Meibion Cenas:Othniel a Seraia.Meibion Othniel:Chathath a Meonothai.

14. Meonothai oedd tad Offra.Seraia oedd tad Joab, hynafiad y bobl sy'n byw yn Ge-charashîm (sy'n cael yr enw am eu bod nhw yn grefftwyr).

15. Meibion Caleb fab Jeffwnne:Irw, Ela, a Naäm.Mab Ela:Cenas.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 4