Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 4:31-43 beibl.net 2015 (BNET)

31. Beth-marcaboth, Chatsar-swsim, Beth-biri, a Shaaraim. Y rhain oedd eu trefi nhw nes bod Dafydd yn frenin.

32. Pump o'i pentrefi nhw oedd Etam, Ain, Rimmon, Tochen ac Ashan;

33. a pentrefi eraill o gwmpas y trefi yma yr holl ffordd i Baal. Dyna lle roedden nhw'n byw. Ac roedden nhw'n cadw cofrestr deuluol.

34. Yr arweinwyr oedd:Meshofaf, Iamlech, Iosha fab Amaseia,

35. Joel, Jehw fab Ioshifia (mab Seraia ac ŵyr Asiel),

36. Elioenai, Iacofa, Ishochaia, Asaia, Adiel, Isimiel, Benaia,

37. Sisa fab Shiffi (mab Alon, mab Iedaia, mab Shimri, mab Shemaia.)

38. Y rhain sydd wedi eu henwi oedd pennau'r teuluoedd.Roedd eu niferoedd yn tyfu'n gyflym,

39. a dyma nhw'n mynd at Fwlch Gedor, i'r dwyrain o'r dyffryn, i chwilio am borfa i'w defaid.

40. Dyma nhw'n dod o hyd i dir pori da yno. Roedd yn wlad eang, ac roedden nhw'n saff ac yn cael llonydd yno. Rhai o ddisgynyddion Cham oedd wedi bod yn byw yno o'u blaenau nhw.

41. Ond pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda, dyma'r dynion oedd wedi eu rhestru yn ymosod ar bentrefi'r Chamiaid, a'r Mewniaid oedd yn byw yno hefyd. Dyma nhw'n eu dinistrio nhw'n llwyr, a chymryd eu tiroedd oddi arnyn nhw, er mwyn cael porfa i'w defaid a'u geifr.

42. Dan arweiniad Plateia, Nearia, Reffaia ac Wssiel (meibion Ishi), dyma bum cant o ddynion o lwyth Simeon yn mynd i fryniau Seir

43. a lladd gweddill yr Amaleciaid oedd wedi dianc yno'n ffoaduriaid. Mae disgynyddion Simeon wedi byw yno ers hynny.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 4