18. Ei wraig e o Jwda oedd mam Iered (tad Gedor), Heber (tad Socho) a Iecwthiel (tad Sanoach.)Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Bitheia, merch y Pharo, oedd wedi priodi Mered.
19. Meibion gwraig Hodeia, chwaer Nacham:tad Ceila y Garmiad ac Eshtemoa y Maachathiad.
20. Meibion Shimon:Amnon, Rinna, Ben-chanan, a Tilon.Disgynyddion Ishi:Socheth a Ben-socheth.
21. Meibion Shela fab Jwda:Er (tad Lecha), Lada (tad Maresha), teuluoedd y gweithwyr lliain main yn Beth-ashbea,
22. Iocim, dynion Cosefa, Joash a Saraff – y ddau yn arweinwyr yn Moab a Iashwfi Lechem. (Mae'r hanesion yma yn dod o archifau hynafol.)
23. Roedden nhw'n gwneud crochenwaith, yn byw yn Netaim a Gedera, ac yn gweithio i'r brenin.
24. Disgynyddion Simeon:Nemwel, Iamin, Iarîf, Serach, a Saul,
25. wedyn Shalwm ei fab e, Mifsam ei fab yntau, a Mishma mab hwnnw.
26. Disgynyddion Mishma:Chamwel ei fab, Saccwr ei ŵyr a Shimei ei or-ŵyr.
27. Roedd gan Shimei un deg chwech mab a chwe merch. Ond doedd gan ei frodyr ddim llawer o feibion, felly wnaeth llwyth Simeon ddim tyfu cymaint â llwyth Jwda.
28. Roedden nhw'n byw yn Beersheba, Molada, Chatsar-shwal,
29. Bilha, Etsem, Tolad,