Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 29:21-30 beibl.net 2015 (BNET)

21. Y diwrnod wedyn dyma nhw'n aberthu anifeiliaid a chyflwyno offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD (mil o deirw, mil o hyrddod, a mil o ŵyn). Hefyd yr offrymau o ddiod oedd i fynd gyda nhw, a llawer iawn o aberthau eraill dros bobl Israel i gyd.

22. Roedden nhw'n dathlu ac yn gwledda o flaen yr ARGLWYDD.Yna dyma nhw'n gwneud Solomon, mab Dafydd, yn frenin. Dyma nhw'n ei eneinio'n frenin, ac yn eneinio Sadoc yn offeiriad.

23. Dyma Solomon yn eistedd ar orsedd yr ARGLWYDD yn lle ei dad Dafydd. Roedd yn frenin llwyddiannus iawn, ac roedd pobl Israel i gyd yn ffyddlon iddo.

24. Dyma'r swyddogion i gyd, arweinwyr y fyddin, a meibion y Brenin Dafydd, yn addo bod yn deyrngar i'r Brenin Solomon.

25. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud Solomon yn frenin mawr, a'i wneud yn enwocach nac unrhyw frenin o'i flaen.

26. Roedd Dafydd fab Jesse wedi bod yn teyrnasu ar Israel gyfan.

27. Bu'n frenin ar Israel am bedwar deg o flynyddoedd. Bu'n teyrnasu yn Hebron am saith mlynedd ac yna yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.

28. Yna bu farw yn hen ddyn. Roedd wedi cael bywyd hir, cyfoeth ac anrhydedd. A dyma Solomon ei fab yn dod yn frenin yn ei le.

29. Mae'r cwbl wnaeth y Brenin Dafydd ei gyflawni, o'r dechrau i'r diwedd, i'w gweld yn Negeseuon Samuel y Gweledydd, Negeseuon y Proffwyd Nathan, a Negeseuon Gad y Gweledydd.

30. Mae'r ffeithiau i gyd yna, hanes ei lwyddiannau milwrol a popeth ddigwyddodd iddo fe, Israel, a'r gwledydd o gwmpas.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 29