Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 29:12-22 beibl.net 2015 (BNET)

12. Oddi wrthot ti mae pob cyfoeth ac anrhydedd yn dod, achos ti sy'n rheoli'r cwbl i gyd. Gen ti mae pob cryfder a nerth, a ti sy'n rhoi nerth i bobl, ac yn eu gwneud nhw'n enwog.

13. Diolch i ti ein Duw! Dŷn ni'n moli dy enw bendigedig di!

14. “Ond pwy ydw i, a pwy ydy fy mhobl i, ein bod ni'n gallu cyfrannu fel yma? Y gwir ydy, oddi wrthot ti mae popeth yn dod yn y pen draw. Dŷn ni ddim ond yn rhoi yn ôl i ti beth sydd piau ti.

15. O dy flaen di, dŷn ni fel ffoaduriaid yn crwydro, fel ein hynafiaid. Mae'n hamser ni ar y ddaear yma yn pasio heibio fel cysgod. Does dim byd sicr amdano.

16. O ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni wedi casglu'r holl gyfoeth yma i adeiladu teml i ti a dy anrhydeddu di, ond ti sydd wedi ei roi e i gyd mewn gwirionedd; ti sydd piau'r cwbl.

17. Dw i'n gwybod, O Dduw, dy fod ti'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun, ac yn falch pan mae rhywun yn onest. Ti'n gwybod fy mod i'n gwneud hyn am resymau da, a dw i wedi gweld y bobl yma yn cyfrannu'n frwd ac yn llawen.

18. O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, Abraham, Isaac ac Israel, gwna i dy bobl bob amser fod eisiau gwneud beth ti'n ddweud. Gwna nhw'n hollol ffyddlon i ti.

19. A gwna fy mab Solomon yn awyddus i ufuddhau i dy orchmynion, rheolau a gofynion, a gorffen adeiladu y deml yma dw i wedi gwneud y paratoadau ar ei chyfer.”

20. Yna dyma Dafydd yn annerch y gynulleidfa: “Bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw!” A dyma'r gynulleidfa gyfan yn moli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. A dyma nhw'n plygu i lawr yn isel o flaen yr ARGLWYDD a'r brenin.

21. Y diwrnod wedyn dyma nhw'n aberthu anifeiliaid a chyflwyno offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD (mil o deirw, mil o hyrddod, a mil o ŵyn). Hefyd yr offrymau o ddiod oedd i fynd gyda nhw, a llawer iawn o aberthau eraill dros bobl Israel i gyd.

22. Roedden nhw'n dathlu ac yn gwledda o flaen yr ARGLWYDD.Yna dyma nhw'n gwneud Solomon, mab Dafydd, yn frenin. Dyma nhw'n ei eneinio'n frenin, ac yn eneinio Sadoc yn offeiriad.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 29